Gwybodaeth Y Cyngor
Cyflwyniad ar waith y Cyngor
Mae Cyngor Bro Trelech a’r Betws yn cynnwys 10 Cynghorydd etholedig, sy’n gwneud y gwaith yn wirfoddol. Mae’r clerc yn cael ei gyflogi i ddelio â gwaith gweinyddol.
Mae'r Cyngor Bro yn atebol i bobl lleol ac mae ganddo ddyletswydd i gynrychioli buddion pob rhan o'r gymdeithas yn gyfartal. Gwaith y Cyngor yw i hyrwyddo’r cymunedau a’r ardal leol, cynrychioli ei fuddianau a cefnogi gwaith grwpiau cymunedol lleol. Wrth ystyried penderfyniadau sy’n effeithio’r gymuned leol, mae'r Cyngor Bro bob amser yn ceisio sicrhau bod y perspectif leol yn cael ei ystyried.
Mae'r Cyngor yn gweithio'n agos gyda Cyngor Sir Caerfyrddin i gynrychioli buddiannau'r gymuned.