• Cartref
  • Cyngor
    • Cyfarfodydd a Chofnodion
    • Cynghorwyr
  • Ein Cymuned
    • Newyddion
    • Sefydliadau, Clybiau a Grwpiau
    • Dolenni
  • Calendr
  • Oriel
  • Cysylltu â ni
  • English
  • Cymraeg

Cyngor Bro Trelech a'r Betws Community Council

Hysbysiad Archwilio Cymru

Gorffennaf 11, 2020 by Clerc

Hysbysiad o ddyddiad  penodiEd  ar gyfer arfer hawliau etholwyr  o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004

Cyngor Cymuned Trelech a’r Betws

Diwedd y flwyddyn ariannol ar 31 Mawrth 2020

 

  1. Dyddiad 11/7/2020

 

  1. Bob blwyddyn, caiff y cyfrifon blynyddol eu harchwilio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cyn y dyddiad hwn, mae gan unrhyw berson â diddordeb y cyfle i archwilio a gwneud copïau o’r cyfrifon a’r holl lyfrau, gweithredoedd, contractau, biliau, talebau a derbynebau ac ati sy’n ymwneud â hwy am 20 diwrnod gwaith ar ôl rhoi rhybudd rhesymol. Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2020, bydd y dogfennau hyn ar gael ar hysbysiad rhesymol wrth wneud cais i:

Liza Jones, Treto Isaf, Trelech, Sir Gaerfyrddin, SA33 6SH. 01239698601

 

rhwng yr oriau o 9yb a 6yh o ddydd Llun i ddydd Gwener

yn dechrau ar                      1st  Medi  2020

ac yn diweddu ar yr                         28ain o Fedi  2020

 

  1. O 29th Medi  2020 hyd nes y bydd yr archwiliad wedi’i gwblhau, mae gan etholwyr llywodraeth leol a’u cynrychiolwyr hefyd:
  • yr hawl i gwestiynu’r Archwilydd Cyffredinol am y cyfrifon. Gellir cysylltu â’r Archwilydd Cyffredinol drwy Grant Thornton a chael
  • yr hawl i fod yn bresennol gerbron yr Archwilydd Cyffredinol a gwneud gwrthwynebiadau i’r cyfrifon neu unrhyw eitem ynddynt. Yn gyntaf, rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig o wrthwynebiad i’r Archwilydd Cyffredinol drwy Grant Thornton. Rhaid rhoi copi o’r hysbysiad ysgrifenedig hefyd i’r Cyngor.

 

  • [Gellir cysylltu â Grant Thornton yn: Grant Thornton, 3 Sgwâr Callaghan, Caerdydd, CF10 5BT]

 

  1. Mae’r archwiliad yn cael ei gynnal dan ddarpariaethau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, Rheoliadau Cyfrifon ac archwilio (Cymru) 2014 a chod ymarfer archwilio Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Filed Under: Newyddion

Chwefror 2021
LlMaMeIGSaSu
1 2 3 4 5 6 7
8 9 10 11 12 13 14
15 16 17 18 19 20 21
22 23 24 25 26 27 28
« Ion  Maw »

Newyddion

Elusen William Davies

Mae’r Ymddiriedolwyr yn fuan yn bwriadu dyfarnu ysgoloriaethau am y flwyddyn 2020/2021 ar gyfer personnau sy’n cychwyn ar addysg bellach neu brentisiaeth crefft. Gellir gwneud ceisiadau ar ffurflen osodedig erbyn 31ain o Ionawr 2021. Gellir cael y ffurflen cais wrth y clerc. Clerc: Mrs Liza Jones, Treto Isaf, Trelech, Caerfyrddin, SA33 6SH  

Mwy o Newyddion

· Privacy & Cookie Policy ·

© Copyright 2021 Cyngor Bro Trelech a'r Betws · All Rights Reserved · Website by With Hindsite