Aelwyd Hafodwenog
Mae Aelwyd Hafodwenog yn un o aelwydydd yr Urdd sy’n cynnig cyfleoedd cymdeithasol, a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg, i bobl ifanc rhwng 10 a 30 mlwydd oed. Mae'r Aelwyd iau (10 i 15 mlwydd oed) yn cwrdd pob nos Iau o fis Medi hyd fis Mehefin yn neuadd Ysgol Gynradd Hafodwenog, Trelech, a’r Aelwyd hŷn yn cwrdd ar nos Sul o fis Ionawr hyd fis Mehefin. Mae’r Aelwyd wedi bod yn ffodus iawn i brofi llwyddiant ar lefel cenedlaethol dros y blynyddoedd ym meysydd y celfyddydau, gan gynnwys ym myd y ddawns werin, clocsio a chanu corawl.
Am fwy o wybodaeth am yr Aelwyd, gallwch gysylltu trwy e-bost (aelwydhafodwenog@hotmail.com <mailto:aelwydhafodwenog@hotmail.com>), trwy eu tudalen Facebook (chwiliwch am “Aelwyd Hafodwenog”), eu cyfrif Twitter (@hafodwenog) neu drwy Snapchat (enw: hafodwenog).
Canolfan Gymdeithasol Alma
Mae Canolfan Alma yn hwb i’r gymuned ers ei sefydlu nôl yn 1976. Ar hyn o bryd, rydym yn ymgeisio am grantiau i adnewyddu a moderneiddio’r Ganolfan. Os bydd y ceisiadau’n llwyddiannus, byddwn yn dymchwel y gegin bresennol gan adeiladu adeilad newydd i gynnwys cegin a thoiledau newydd.
Cynhelir amrywiaeth o weithgareddau yn ystod y flwyddyn sy’n addas i bob oedran.
Mae’r Ganolfan yn cael ei ddefnyddio’n rheolaidd gan y mudiadau/clybiau canlynol: Merched y Wawr Bro Alma a Chlwb Bowlio Mat Byr Alma.
Te a chlonc: Ar brynhawn Sadwrn diwethaf o bob mis rhwng 2pm a 4pm, mae'r Ganolfan yn agor ei drysau i'r rhai sydd ddim yn hoff o fynd allan gyda’r hwyr i ddod a chymdeithasu gyda ffrindiau dros baned.
Gyrfa Chwist misol: Ar yr ail nos Sadwrn o bob mis cynhelir gyrfa chwist yn y Ganolfan am 7.30pm. Darperir lluniaeth ysgafn hanner amser
Am fwy o fanylion, cysylltwch â’r:
Ysgrifennydd: Margaret Evans (01994 230761)
Canolfan Gymdeithasol Trelech
Mae Canolfan Gymdeithasol Trelech yn ganolfan i'r gymuned. Fe'i hadnewyddwyd yn y blynyddoedd diwethaf ac erbyn hyn, mae ganddi gyfleusterau arbennig, megis cegin fodern, thoiledau i'r anabl a lle i newid babanod. Yn wythnosol, mae Cylch Meithrin Trelech, Cylch Ti a Fi a dosbarth dawnsio llinell yn cwrdd yno. Yn ogystal, defnyddir yr adeilad yn rheolaidd gan Gapel y Graig a Sefydliad y Merched, ac yn achlysurol gan Aelwyd Hafodwenog a Chlwb Ffermwyr Ifanc Penybont. Mae'r Ganolfan ar gael i'w hurio, boed ar gyfer parti neu weithgaredd elusennol.
Gellir cysylltu â Louise Fulcher (07450 826817) am fwy o fanylion.
Canolfan Gymunedol Penybont
Mae Canolfan Gymunedol Penybont yn ganolfan i’r gymuned ers ei sefydlu yn 1973. Mae’r adeilad yn cynnwys neuadd a chegin gyda mynediad i’r anabl a thoiledau. Cynhelir amryw o weithgareddau yn y Ganolfan drwy gydol y flwyddyn, megis cwisiau, bingo, bore coffi ac ati. Mae’r gweithgareddau hyn yn addas ar gyfer pob oedran.
Defnyddir y neuadd yn rheolaidd gan Bwyllgor y Ganolfan a Chlwb Ffermwyr Ifanc Penybont, ac yn achlysurol gan Gapel Penybont, Eglwys y Plwyf ac Aelwyd Hafodwenog. Gellir llogi’r Ganolfan ar gyfer digwyddiadau amrywiol.
Am fwy o fanylion, cysylltwch â Sheila Cousins (01994 484598)
Capel Ainon, Gelliwen
Capel y Bedyddwyr sy’n cynnal gwasanaeth yn fisol. Ceir manylion pellach wrth yr Ysgrifennydd.
Ysgrifennydd: Peter Crowdie (01994 230033)
Capel Ffynnonbedr
Y Parchedig Ddr Felix Elfed Aubel yw’r gweinidog presennol. Cynhelir Ysgol Sul yn wythnosol yng Nghapel Ffynnonbedr, a cheir manylion pellach gan yr athrawon.
Ysgrifennydd: Linda Davies (01267 238571)
Trysorydd: Arwyn Jones (01994 230349)
Ysgol Sul: Hevina Jones (01994 230349) Alwen Davies (01994 484320)
Capel Penybont
Y Parchedig Ddr Felix Elfed Aubel yw’r gweinidog presennol. Ceir manylion pellach wrth yr ysgrifennydd:
Ysgrifennydd: Elinor Jameson (01267 211860)
Trysorydd: Linda Davies (01994 484657) / Meryl Jones (01994 484297)
Capel Ty Hen, Meidrim
Cynhelir oedfaon yn rheolaidd ar y Sul, ac mae croeso i unrhyw un i ymuno â ni.
Am fwy o fanylion cysylltwch â’r Ysgrifennydd:
Ysgrifennydd: Margaret Evans (01994 230761)
Trysorydd: Wyn Morris (01994 484563)
Capel y Graig, Trelech
Y Parchedig Ddr Felix Elfed Aubel yw’r gweinidog presennol yng Nghapel y Graig, cynhelir Ysgol Sul yn wythnosol yn ystod tymor yr Ysgol, ceir manylion pellach gan yr Ysgrifennydd.
Ysgrifennydd: Jean Lewis (01994 484334)
Trysorydd: David Harries (01994 241100)
Clwb Bowlio Mat Byr Alma
Mae’r clwb yn aelodau o Gynghrair Sir Gaerfyrddin ac ar hyn o bryd yn yr adran gyntaf. Mae’r clwb yn cyfarfod aR nos Fawrth am 7.30pm yng Nghanolfan yr Alma, croeso cynnes i aelodau newydd ymuno â nhw.
Am fwy o fanylion, cysylltwch â Dylan Evans (01994 230761)
Clwb Ffermwyr Ifanc Penybont
Mae CFfI Penybont yn fudiad ieuenctid sy’n darparu cyfleoedd i aelodau rhwng 10 a 26 mlwydd oed. Rydym yn cyfarfod ar nos Lun am 7.30pm yng Nghanolfan Gymunedol Penybont rhwng mis Medi a mis Mai. Mae’r mudiad yn cael ei rhedeg gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc ac yn cynnig cyfleoedd a phrofiadau arbennig i’r aelodau wrth iddynt ddatblygu sgiliau newydd, ennill hyfforddiant gwerthfawr, teithio’r byd, bod yn rhan annatod o’r gymuned a chael cyfle i wneud ffrindiau am oes.
Am fanylion pellach, cysylltwch â’r swyddogion:
Cadeirydd: Tomos Jameson (07791 102536)
Ysgrifennydd: Angharad Richards (07577 790649)
Cylch Meithrin Trelech
Mae Cylch Meithrin Trelech yn ddarpariaeth sydd wedi’i gofrestru gyda AGGCC.
Cymraeg yw iaith y cylch meithrin ond mae croeso i bob plentyn yn y cylch dim ots beth yw’r iaith sy’n cael ei siarad yn y cartref. Nod ein cylch yw hyrwyddo addysg a datblygiad plant o ddwy flwydd oed hyd at oed ysgol. Mae cyfle i blant gymdeithasu a dysgu trwy chwarae dan arweiniad ein staff proffesiynol, cyfeillgar a brwdfrydig.
Cynhelir Cylch Meithrin ar ddydd Llun, Mercher, Iau a Gwener rhwng 9am a 12pm yng Nghanolfan Gymunedol Trelech.
Am fwy o fanylion, cysylltwch gyda’r Arweinydd: Gemma Rogers ar 01994 484677 neu gemmarogers08@gmail.com neu gellir cysylltu â’r Ysgrifennydd: Ffion Harries (01994 484559).
Cylch Ti a Fi
Pwrpas ein cylch Ti a Fi yw rhoi cyfle i rieni neu warchodwyr gwrdd yn rheolaidd i fwynhau chwarae gyda'u plant a chymdeithasu dros baned o de!
Mae'r cylch Ti a Fi yn cynnig gweithgareddau sy'n helpu datblygiad plant o enedigaeth hyd at oed ysgol. Mae’n gyfle gwych i rieni/gwarchodwyr gwrdd i rannu profiadau a chymdeithasu mewn awyrgylch gyfeillgar a Chymreig.
Wrth fynd i'r cylch Ti a Fi bydd eich plentyn yn cael cyfle i fwynhau chwarae gyda phob math o deganau a gwneud ffrindiau bach newydd; dysgu caneuon bach syml y gallwch eu canu gyda’ch gilydd gartref; gwrando ar storïau... a joio!
Mae’r cylch Ti a Fi yn cyfarfod ar ddydd Llun a Gwener rhwng 12pm a 1.30pm yng Nghanolfan Gymunedol Trelech, darperir cinio ar gyfer y plant.
Codir ffî fach, plant 1 mlwydd oed neu lai £1.00, plant yn hŷn nag 1 mlwydd oed, £2.00.
Am fwy o fanylion, cysylltwch gyda’r Arweinydd: Gemma Rogers ar 01994 484677 neu gemmarogers08@gmail.com neu gellir cysylltu â’r Ysgrifennydd: Ffion Harries (01994 484559).
Eglwys y Plwyf San Teilo, Penybont
Trelech a'r Betws yw teitl swyddogol y plwyf hwn sydd wedi'i leoli yng nghornel wledig Gogledd Orllewin Sir Gaerfyrddin. Cynhelir gwasanaethau yn rheolaidd ac mae'r patrwm addoli fel a ganlyn:
Sul Cyntaf y mis: 11.15am. Y Cymun Bendigaid (Cymraeg)
Ail Sul: 3.30pm. Hwyrol Weddi (dwyieithog)
Trydydd Sul: 11.15am. Y Cymun Bendigaid (Saesneg)
Mae'r addoliad arferol yn seiliedig ar batrwm Llyfr Gweddi Cyffredin yr Eglwys yng Nghymru (1984). Yn ogystal cynhelir gwasanaethau mwy anffurfiol ar adegau arbennig megis Diolchgarwch a’r Nadolig. Gellir cysylltu a'r offeiriad-â-gofalaeth Canon Ann Howells drwy’r ffôn ar 01267 468136.
Yn draddodiadol mae'r fro hon wedi bod yn gadarnle Anghydffurfiaeth. Serch hynny dylid nodi mai'r eglwys yw'r unig addoldy yma sydd yn cynnig gwasanaethau Dwyieithog a Saesneg yn ogystal â rhai Cymraeg, er bod mwyafrif yr addolwyr cyson yn Gymry Cymraeg i'r carn! Yn hyn o beth mae hi'n dal yn eglwys y gymuned gyfan felly mae croeso twymgalon i chwi ymuno â ni yn ein haddoliad a'n tystiolaeth.
Elusen William Davies
Gwnaeth William Davies, Plasparciau ewyllys ym mis Awst 1788, yn dilyn ei farwolaeth yn fuan wedyn, sefydlwyd Elusen William Davies.
Prif bwrpas yr elusen oedd i baratoi addysg ar gyfer tlodion y plwyf, ac mae’r elusen yn parhau hyd heddiw gan gynnig cyfraniad ariannol tuag at gostau addysg bellach neu brentisiaeth.
Yn flynyddol mae’r ymddiriedolwyr yn dyfarnu ysgoloriaethau ar gyfer unigolion sy’n byw o fewn y plwyf ac sy’n cychwyn ar addysg bellach neu brentisiaeth crefft. Gellir cael manylion pellach wrth y Clerc.
Merched Y Wawr Bro Alma
Ffurfiwyd Cangen Bro Alma ym mis Medi 1986, felly mae blwyddyn 2016-2017 yn flwyddyn dathlu’r 30.
Cynhelir ein cyfarfodydd ar y trydydd nos Fercher o’r mis am 7.30pm, ac mae wastad croeso i aelodau newydd. Cynhelir amrywiaeth o ddigwyddiadau fel nosweithiau crefft, gosod blodau, coginio, gêmau amrywiol a mwynhau croesawu siaradwyr gwadd i’n plith.
Swyddogion 2016-2018:
Llywyddion: Mrs Hevina Jones (01994 230349) / Mrs Eirlys Phillips (01994 484313)
Ysgrifenyddion: Mrs Val Gibbard (01267 211327) / Mrs Llinos Jones (01267 211326)
Trysorydd: Mrs Judith Jones (01994 484622)
Sefydliad y Merched Trelech
Ffurfiwyd Sefydliad y Merched (WI) yn 1915 i adfywio cymunedau gwledig ac i annog menywod i gymryd mwy o ran wrth gynhyrchu bwyd yn ystod y Rhyfel Byd cyntaf. Ers hynny mae nodau'r sefydliad wedi ehangu a bellach Sefydliad y Merched yw’r sefydliad gwirfoddol mwyaf ar gyfer merched yn y Deyrnas Unedig.
Mae Sefydliad y Merched yn chwarae rôl unigryw wrth ddarparu gweithgareddau addysgol i fenywod a'r cyfle i feithrin sgiliau newydd a chymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau yn ogystal ag ymgyrchu ar faterion sydd o bwys iddynt hwy ac i'w cymunedau.
Mae Sefydliad y Merched Trelech fel arfer yn cwrdd am 1.30pm, ar yr ail ddydd Mawrth o'r mis yng Nghanolfan Gymunedol Trelech.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:
Llywydd: Ceri Saer (01994 484418)
Ysgrifennydd: Lynn Seymour (01994 484201)
Trysorydd: Mary Keogh (01239 698284)
Ysgol Gynradd Hafodwenog
Lleolir Ysgol Gynradd Hafodwenog ym mhentref Trelech. Fe'i hagorwyd yn 1972 ar gyfer plant ardaloedd gwledig Alma, Bryn Iwan, Cilrhedyn, Dinas, Gelliwen, Pandy, Penybont, Talog a Threlech.
http://www.hafodwenog.amdro.org.uk/
Pennaeth: Mrs Siw Jones
Ffôn: 01994 484427 / E-bost: siwjones@ysgolccc.org.uk